Sain: Yr ymyrraeth dwy funud gorau

Sain Trawsysgrif - Yr ymyraeth dwy funud gorau.pdf 76.43 KB



Gwrandewch ar y ffeil sain am greu’r ymyrraeth dwy funud gorau a fydd yn cymryd munud yn unig!


Dull Rhydd

Tra’n gweithio gydag uned trosglwyddo disgyblion yn Llundain, roedd y staff yn chwilfrydig gyda’r syniad o sgriptio ymyriadau. Fe wnaethon nhw greu eu set o sgriptiau gan ymdrechu eu defnyddio pryd bynnag roedd modd (yn aml, dydy eu myfyrwyr ddim yn aros yn ddigon hir am frawddeg i orffen).

Wrth i mi fyfyrio ar y cynnydd gyda’r prifathro, dywedodd, “Rydw i’n caru’r sgriptiau, maent yn atal pobl rhag defnyddio dulliau rhydd.” Rydw i’n caru hynny. Tarodd yr hoelen ar ei phen. Mae llawer ohonom wedi breuddwydio troellu geiriau byrfyfyr dros rhyw drac budreddi brwnt (na?) ond ni ddylid caniatau hynny. Dydy hi ddim am orffen yn dda. Ychydig iawn o freestylers dawnus sydd yn  bodoli. Ni ddylai’r mwyafrif ohonom fynd yn agos at feicroffôn. Os na allwch ei wneud yn dda, byddai’n well i bawb petai chi’n dysgu’r geiriau yn unig.

Wrth i chi gerdded o gwmpas eich gweithle yfory, gwrandewch am sawl sgwrs am ymddygiad sydd wedi digwydd ar hap. Efallai bod gan yr oedolyn syniad clir o beth i ddweud i gychwyn, ond ar ôl hynny gall unrhywbeth ddigwydd. Ar sail pa werthoedd, rheolau a disgwyliadau ydy’r sgyrsiau yma? Oes cysondeb, neu ydy’r cyfleoedd yma i atgyfnerthu cytundeb o safonnau yn cael eu gwastraffu? Nawr dychmygwch bob un ohonynt gyda meicroffôn yng nghanol llongddrylliad trên yn perfformio Juicy’ (Biggie), N.Y., State of Mind (Nas), neu hyd yn oed ‘Wham Rap!’. (Os oes rhaid gofyn, doeddech chi ddim yno, man!)

Bydd rhai yn ymostwng i gyffelabiaethau cymhleth gyda’u bywydau eu hunain: ‘Pan oeddwn i’n ferch fach, baswn i byth wedi siarad gydag athro yn y fath ffordd. Basai fy mam wedi….’ Bydd eraill yn gwneud cyffelybiaethau cymhlethach gyda bywyd cartref y myfyriwr: Fyddai dy fam yn gadael i ti godi, cydio mewn Twix, bwyta hanner ohono a brocio Elin ar y ffordd nôl?’ Errr….Pan fydd popeth arall yn methu, bydd rhai yn ymostwng i anwybyddu’r myfyriwr, gan gerdded i ffwrdd a llenwi taflen detention neu trosglwyddiad ymddygiad. Mae’r drwgdeimlad sy’n codi o ganlyniad i hwn yn crychu trwy bob gwers ac mewn i amser tiwtor/ dosbarth/ mentora, ac yn aml yn ffrwydro gyda “Beth! Wnaeth e hyd yn oed ddim….”fel mae unigolion yn sylweddoli’n sydyn eu bod nhw wedi cael eu cosbi heb rybudd neu esboniad.

Weithiau mae’n hawdd i fyrfyfyrio’ch ffordd trwy sgwrs anodd am ymddygiad. Yn gynnar yn yr wythnos rydyn ni ar flaen y gâd, yn ffraeth, a bron yn mwynhau’r frwydr o eiriau. Erbyn diwedd yr wythnos, mae’r ffraethrwydd wedi cael ei dileu gan flinder. Mae tawelwch mewn ystafell dywyll yn ymddangos yn fwy deniadol na’r cellweirio. Rydw i wedi colli gormod o benwythnosau yn poeni am sut roeddwn wedi camreoli rhai o’r plant mwyaf lletchwith ar brynhawn Dydd Gwener. Pan mae nam ar fy sgiliau byrfyfyrio, rydw i angen cynllun wrth gefn. Un sydd yn cyfyngu’r risgiau byrfyfyrio blinedig. 

Mae yna ffordd o berfformio sy’n gweithio’n dda. Dylen ni ddim fod yn nerfus am ymatebion cyffredinol pan maent yn cael eu creu gan garedigrwydd, empathi a dealltwriaeth. Does dim angen ymosodedd arnoch i ddal ffiniau. Rydych chi angen y cysondeb sy’n ymddangos ym mhob sgwrs lletchwith.



Cynlluniwch eich sgwrs ymyrraeth dwy funud mewn ychydig o bwyntiau bwled. Gallwch ddefnyddio’r strwythur ag amlinellais yn y clip sain neu dewiswch un eich hunan. Ceisiwch nodi enghreifftiau o’r iaith rydych chi’n gyfforddus yn ei defnyddio.

Nawr ymarferwch ar eich pen eich hunan, neu gyda phartner neu’ch plentyn eich hun! Triwch ei gael yn rhugl fel nad ydych yn gwneud camgymeriadau. Bydd rhaid fod yn hyblyg am nad ydych chi’n gallu rhagfarnu adwaith pob plentyn ond gallwch chi wedi ymarfer cymaint a gallwch.

Nawr dechreuwch ddefnyddio eich strwythur ac iaith ar blant sydd ddim yn mynd i’ch profi’n ormodol. Peidiwch ddechrau gyda’r cwsmer mwyaf lletchwith. Cynyddwch yn raddol. Byddwch yn sicr o’ch dull ymateb yn gyntaf.