Gweithdai byw gyda Paul

Byddwn yn arwain gweithdai byw ar-lein ar foreau Sadwrn yn ystod y cwrs. Byddwch yn gallu cael mynediad i 4 gweithdy gyda’ch trwydded cwrs

Bydd y gweithdai yn para 60 munud ac yn canolbwyntio ar:

1. Cwestiynau Lletchwith

Trafodaeth hynod ddiddorol ar yr egwyddorion allweddol sy’n fframio Ymarfer Perthynol ac yn diffinio ei werthoedd. Ydyn ni’n rhoi i blant beth maen nhw’n eu haeddu neu beth maen nhw eu hangen? Heriol neu ofidus? Cerdded bendigedig neu ‘Côd Du’. Byddwch yn barod i rannu barn a chwestiwn ar eich ymarfer chi.

2. Cyfalaf Perthynol

Nerth cyfalaf emosiynol. Sut i’w gael, beth i wneud ag ef a phryd i’w wario yn fwyaf effeithiol. Mae’r gweithdy yma am berthnasau cadarnhaol, cydnabyddiaeth cadarnhaol a sylwi. Mae effaith anhygoel gan y pethau bychain tebygol. Byddwch yn barod i adrodd stori.

3. Canlyniadau/Cosbau

Beth ydy rôl canlyniadau o fewn Ymarfer Perthynol?  O detentions canoledig i sgyrsiau adferol, sut ydych chi’n rhoi cosb heb achosi niwed i’r ymddiriedolaeth rydych chi wedi adeiladu gyda myfyrwr? Ydy canlyniadau fesul cam yn effeithiol neu’n waharddol? Disgwylwch ddadl fywiog a fyddwch yn barod i greu cynllun am ymatebion cyson

4. Sefyllfaoedd Anodd

Mae gweithio gyda phlant sy’n profi argyfyngau yn ystod diwrnod ysgol yn golygu bod angen cynllun wrth gefn yn ogystal â chynllun pob dydd. Sut ddylech chi ymateb, pa systemau ydych chi’n eu defnyddio a sut allwch chi helpu plant i adennill? Byddwch yn barod i rannu yr hyn rydych wedi ei ddysgu ac i gyfuno syniadau.

Maent yn weithdai ac nid cyfres o areithiau. Byddwch yn ffeindio’ch hun yn ymuno ac yn cyfrannu. Bydd Paul yn arwain y gweithdai a fe fydd yn gwahodd y tîm hyfforddi i wneud ymddangosiadau hefyd.

Byddwn yn recordio’r gweithdai ac yn eu rhoi yma. Os gallwch chi ddod i’r sesiwn fyw, plîs gwnewch hynny. Rydw i’n siwr y byddwch yn cael mwy ohono.

Rydw i’n disgwyl ymlaen at eich gweld yn y sesiwn cyntaf.